HelenWILLIAMSWILLIAMS - Dymuna Elfyn a theulu y diweddar Helen (Peris) ddiolch yn ddiffuant i'r holl deulu, ffrindiau a chymdogion am y caredigrwydd a ddangoswyd iddynt yn eu profedigaeth sydyn. Diolch i feddygon a nyrsys Ward 9, yn cynnwys y Parch. Berw Hughes, Ysbyty Glan Clwyd, am eu gofal. Diolch hefyd i'r Parchedigion Dewi Morris, Blodwen Jones a John Lewis-Jones am y gwasanaeth. I Evan Wyn Evans am y deyrnged hyfryd i Helen. Diolch i Tom Owen a'i Fab am eu trefniadau trylwyr; diolch i bawb am yr holl gardiau a'r rhoddion hael tuag at Gymdeithas y Clefyd Parkinson.
Keep me informed of updates